Prosiect Gwenfrewi 2024

Rydym ni eisiau eich barn ar y datblygiad o Neuadd Gwenfrewi – y cyn eglwys “St. Winefride” ar Heol y Frenhines, i’w drosi i ofod cymunedol a diwylliannol ar gyfer trigolion Aberystwyth.

Darllen mwy isod…

Tŷ’r Offeiriad:

Mae Tŷ’r Offeiriad sydd ynghlwm wrth yr Eglwys yn cael ei adnewyddu ar hyn o bryd i fod yn swyddfeydd y Cyngor Tref. Mae swyddfeydd presennol y Cyngor Tref, ar Stryd y Popty, yn cael eu rhentu ac yn costio £18,000 y flwyddyn i drethdalwyr Aberystwyth. Mae prydles y swyddfeydd hyn yn dod i ben ym mis Tachwedd 2024 a disgwylir i waith adfer Tŷ’r Offeiriad gael ei gwblhau ym Mehefin/Gorffennaf 2024.

Yr Hen Eglwys

Mae Cyngor Tref Aberystwyth wrthi’n paratoi cais i Gronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU am arian grant i adfer yr hen Eglwys a’i haddasu’n neuadd gymunedol a lleoliad diwylliannol/dinesig. Bydd y gwaith o adfer yr hen Eglwys yn un sympathetig, gan gadw cymaint o’i chymeriad a’i nodweddion gwreiddiol â phosibl, ond gydag insiwleiddio a phaneli solar ychwanegol i wella effeithlonrwydd ynni’r adeilad a chreu gofod cynhesach, mwy croesawgar i’r gymuned. Fel neuadd gymunedol, byddai Neuadd Gwenfrewi yn ofod hyblyg a fyddai’n addas ar gyfer cynnal llawer o wahanol ddigwyddiadau ac i’w ddefnyddio gan grwpiau a sefydliadau cymunedol. Mae rhai defnyddiau posibl yn cynnwys:

  • Perfformiadau neu ymarferion cerddoriaeth a theatr
  • Man cyfarfod i grwpiau cymunedol neu gymdeithasau trigolion gynnal eu cyfarfodydd blynyddol
  • Canolfan argyfwng newydd i’r dref (Canolfan Hamdden Plascrug ar hyn o bryd, nad yw’n ganolog ac yn anodd i lawer ei chyrraedd mewn argyfwng)
  • Lleoliad ar gyfer priodasau sifil neu gofebion; mae’r safle wedi’i ddadgysegru, gan ei alluogi i gwrdd â’r galw am briodasau Eglwysig o’r arddull draddodiadol, ond heb ymlyniad crefyddol.
  • Lle ar gyfer clybiau ieuenctid neu weithgareddau plant, fel grwpiau mam a’i phlentyn
  • Gweithgareddau i bobl hŷn
  • Dosbarthiadau a gweithgareddau ffitrwydd fel dawns neu ioga

Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn gwneud cais i’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol i sicrhau cyllid i wneud y gwaith o adfer yr Eglwys a chreu’r hwb cymunedol hwn, a fydd yn gwasanaethu Aberystwyth am flynyddoedd i ddod. Os yn llwyddiannus, byddai hyn yn gweld Neuadd Gwenfrewi yn agor ei drysau ac yn croesawu’r cyhoedd yn 2025. Mae cynlluniau hefyd i ddatblygu’r safle ymhellach yn y dyfodol, gydag ‘eco-adeilad’ defnydd hyblyg newydd ynghlwm wrth yr Eglwys, er bod angen dod o hyd i gyllid ar gyfer hwn o hyd.

Fel rhan o’n cais i’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol, mae’r Cyngor Tref yn gofyn am farn a mewnbwn ar y prosiect gan drigolion a grwpiau lleol. Gallech chi, neu’ch grŵp, gael effaith ar ddatblygiad y prosiect a dyfodol yr ased hanesyddol hwn trwy gwblhau’r arolwg byr canlynol yn unig; mae hon ar gael fel ffurflen bapur y gellir ei dychwelyd i’r Cyngor Tref gan ddefnyddio’r manylion isod, neu sydd hefyd ar gael i’w llenwi ar-lein; Yn yr un modd, cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth.